Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Hydref 2021
Amser:
10.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.45-10.00)
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Caiff y cyfarfod hwn ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Cyfarfod cyhoeddus (10.00-12.00)
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(10.00)
2 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
(10.00-10.55) (Tudalennau 1 - 38)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Yr Amgylchedd a’r Môr
Steve Vincent, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd
Chris Wheeler, Pennaeth Datgarboneiddio ac Ynni
Dogfennau atodol:
Briff Ymchwil
Papur - Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig)
Egwyl (10.55-11.05)
3 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
(11.05-12.00)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Yr Amgylchedd a’r Môr
Steve Vincent, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd
Chris Wheeler, Pennaeth Datgarboneiddio ac Ynni
4 Papurau i'w nodi
(12.00)
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd:
(Tudalennau 39 - 46)
Dogfennau atodol:
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd
4.2 Safleoedd Rheoli Ffiniau yng Nghymru
(Tudalennau 47 - 61)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Weinidog yr Economi at y Cadeirydd ynghylch Safleoedd Rheoli Ffiniau yng Nghymru (Atodiadau - Saeseng yn unig)
4.3 Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
(Tudalennau 62 - 67)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd
ynghylch treillio ar wely'r môr ac Ardaloedd Morol
Gwarchodedig yng Nghymru
Llythyr gan Cyswllt Amgylchedd Cymru at y Gweinidog Newid Hinsawdd
a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
mewn perthynas â treillio ar wely’r môr ac
Ardaloedd Morol Gwarchodedig (Saesneg yn unig)
4.4 Gweithgynhyrchu yng Nghymru
(Tudalennau 68 - 69)
Dogfennau atodol:
Gohebiaeth gan y Cyfarwyddwr Aelodaeth, Cymru - Make UK, sefydliad y gweithgynhyrchwyr, at y Cadeirydd ynghylch gweithgynhyrchu yng Nghymru (Saesneg yn unig)
4.5 Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio rhif 2) 2021
(Tudalennau 70 - 71)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd ynghylch Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio rhif 2) 2021
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
(12.00)
Cyfarfod preifat (12.00-12.15)
6 Trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod sesiynau craffu ar waith y Gweinidogion o dan eitemau 2 a 3
7 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
(Tudalennau 72 - 75)
Dogfennau atodol:
Papur – Blaenraglen Waith